Yn yr adran yma:

 

| Mwy

Gweithgareddau


Bydd gweithgareddau’r Feithrinfa yn cael eu selio ar thema penodedig amrywiol pob tymor. Fel rhieni gallwch gyfrannu drwy rannu syniadau, cynnig adnoddau neu offer addas sydd gennych. Mae gweithgareddau yn y Feithrinfa yn dilyn y Cyfnod Sylfaen ar meysydd dysgu canlynol: Iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu, mathemategol, personol a chymdeithasol, creadigol, corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd, a gwybodaeth am hil ac amlddiwilliant.Mae gennym pump ystafell bwrpasol i’r plant, un ar gyfer babanod 4 mis - 1 oed un i babanod 1 oed - 2 oed, a tair ystafell i plant 2 oed i 4 oed. Mae toiledau pwrpasol i’r plant yn cynnwys toiled i’r anabl. Ceir mynediad didrafferth i’r adeilad. (hwylus i gadair olwyn). Yn yr ystafelloedd mae llefydd ar wahan i’r plant cael mynd i gysgu, mae cots yma a gwlau bach.
Hawlfraint © 2010 Pitian Patian. Dyluniwyd gan Delwedd.