Amdanom Ni
Agorwyd Pitian Patian ym mis Awst 2005 mewn adeilad wedi ei addasu yn bwrpasol ar gyfer y gwaith. Mae'r Feithrinfa yn llawn cymeriad ac wedi ei leoli yn Ty Hen, Llanwnda. Mae'r tu mewn wedi ei cynllunio yn arbennig i blant gyda pob modfedd yn cynnig antur saff i pob plentyn yn ein gofal. Rydym wedi ei leoli mewn lle prydferth, a fydd bob cyfle i'r plant gwneud y fwaf ohono. Mae Pitian Patian yn cynnig amgylchedd cartrefol a saff i plant rhwng 3 mis a 4 oed.
Mae Pitian Patian yn coelio'n cryf mewn partneriaeth dda rhwng y rhieni a'r Feithrinfa, a hoffwn i pob un ohonoch teimlo fel rhan o'r Feithrinfa. Hoffwn clywed eich awgrymiadau ar pob dim mae Pitian Patian yn ei cynnig. Rydym yn cynnig trefnidiaeth i ysgolion o fewn radiws o 7 milltir.
Rydym wedi cofrestru gyda'r AGGCC, sy'n arolygu'r feithrinfa yn flynyddol. Mae ein hadroddiad ar gael ar wefan AGGCC.
- Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) - cliciwch yma
- Mudiad Ysgol Meithrin - cliciwch yma
Blaenoriaeth Meithrinfa Ddydd Pitian Patian Llanwnda yw hapusrwydd pob plentyn. Mae gofal yn cael ei gynnig mewn amgylchedd diogel a symbylus lle gall plant fanteisio ar ystod eang o weithgareddau a phrofiadau sy'n eu galluogi i ddysgu a datblygu i'w llawn botensial chwarae.
Mae Meithrinfa Ddydd Pitian Patian Llanwnda yn cynnig gofal o ansawdd fforddiadwy hyblyg i rieni sy'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth. Mae'r ddarpariaeth ar agor 7:30-18:00, Llun - Gwener.
Mae Pitian Patian Llanwnda Ltd wedi ei osod mewn lleoliad gwledig trawiadol wedi’i hamgylchynu gan gaeau a chefn gwlad. Yr ydym wedi ein lleoli yn Llanwnda tua 3 milltir tu allan i Gaernarfon gyda mynediad hawdd o Borthmadog, Penygroes, Pwllheli a Chaernarfon. Mae'r feithrinfa yn darparu ansawdd uchaf o ofal ar gyfer chi a'ch plentyn / plant.
Polisi'r Feithrinfa yw mai Cymraeg yw cyfrwng yr holl weithgareddau, er bod yr holl staff yn ddwyieithog, ac yn cyfathrebu â'r plant yn eu hiaith eu hunain pan fo hynny'n bosibl.

