Prisiau
Wythnos Llawn 5 diwrnod hyd at 10 awr y dydd = £260.00 (£55.00 x 5 = £275.00 arbediad o £15.00 y dydd am y 5ed dydd)
Cost Dyddiol £55.00
Cost yr awr ( o leiaf 3 awr) £8.00
Cost cinio £3.00
Byrbryd £2.00
Rydym yn Cynnig gwasanaeth casglu a gollwng rhwng 7.45-8.15am a 4.00-5.00pm am £8 (£4.00 bob ffordd) o fewn radiws 6 Milltir.
Cost ar gyfer plant y clwb:
Clwb brecwast: £8.00
Clwb arol Ysgol 3.00-5.00y.p £15.00
3.00-6.00y.p £20.00
Cost clwb Gwyliau run fath a cost yr feithrinfa.
Bydd yr holl ofal yn cael ei gynnig ar yr awr o 7.30 ymlaen.
Diwrnod llawn ar gael o 7.30-5.30 / 8.00-6.00
Byddwn yn awr yn ail gyfrifo costio pob cwsmer yn y feithrinfa a bydd cyfle i chi i wneud newidiadau os ydych yn dymuno. Tra y byddwn yn cyflwyno'r newidiadau hyn byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw daliadau ychwanegol yn cael eu codi ar ein cwsmeriaid presennol. Os byddwn yn darganfod bod y gofal yn rhatach, bydd eich taliadau yn cael eu haddasu cyn gynted â phosibl.
Beth yw talebau gofal plant?
Os ydych chi'n gweithio ac yn talu am ofal plant, efallai y gall eich cyflogwr helpu gyda rhai o'ch costau gofal plant. Mae talebau gofal plant yn un ffordd y gallant wneud hynny. Am fwy o wybodaeth ewch i www.hmrc.gov.uk.
Rydym yn derbyn y Talebau Gofal Plant canlynol ar hyn o bryd:
• Edenred (www.childcarevouchers.co.uk)
• Saycare Pass gan Sodexo (www.saycarvouchers.co.uk)
• Gwasanaethau talebau Computershare (www.computersharevocherservices.co.uk)
• Kiddivouchers (www.kiddivouchers.com)
• Cyngor Gwynedd
Os ydych chi'n defnyddio cynllun talebau gwahanol, rhowch wybod i ni fel y gallwn drefnu i ymuno â hwy.

